PET(4)-05-11 Papur 13a

P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru gefnogi ysgolion bach ac yn benodol i gefnogi cynghorau er mwyn iddynt gadw ysgolion bach ar agor. Rydym yn credu bod ysgolion bach yn galon cymunedau gwledig, yn hanfodol i helpu’r iaith Gymraeg i oroesi ac, uwchlaw bob dim, yn ganolfannau o ragoriaeth academaidd i’n plant. Rydym yn gofyn bod y Cynulliad yn ailystyried sut mae’n defnyddio meini prawf y Comisiwn Archwilio i ddynodi ysgolion fel rhai bach, a’r ffordd mae’n dewis ariannu adeiladau newydd yn hytrach nag adnewyddu hen adeiladau.

 

Linc i’r ddeiseb:http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1016&Opt=0

 

Cyflwynwyd gan:Leila Kiersch

Nifer y llofnodion: 244 signatures

 

Gwybodaeth ategol:
Mae  ysgolion bach yn cau ledled Cymru.  Mae’r ddeiseb hon yn uno’r holl bobl sy’n pryderu bod eu hysgolion o dan fygythiad ac yn cydnabod bod hwn yn fater Cymru gyfan. Mae gan y Cynulliad bwerau i helpu i atal yr ysgolion hynny rhag cael eu cau .  Mae llawer o ysgolion wedi bodoli am ddegawdau, os nad  am gannoedd o flynyddoedd. Nid oes gan bawb fynediad at gar ac nid yw’n iawn i gludo plant ifanc am filltiroedd mewn bws bob dydd. Mae cau’r ysgolion hyn yn groes i egwyddorion sylfaenol datblygu cynaliadwy sydd wedi’u hymgorffori yng nghyfansoddiad y Cynulliad.